Skip to content

Eisteddfod Ffug yr Hoelion Wyth 2015, Nos Wener, Mawrth 6ed yng Nghaffi Beca, Efailwen

    RHAGLEN YR EISTEDDFOD
    EITEMAU LLWYFAN
    1. JÔC

    2. CÂN ACTOL NEU DDIGRI

    3. SGETS – AGORED ( DIM FWY NA 5 MUNUD )

    4. COR – HAWL I FYW

    DISGWYLIR I BOB CANGEN GYSTADLU AR BOB UN O’R TESTUNAU LLWYFAN.
    MARCIAU : 5 PWYNT AM GYSTADLU, 3 PWYNT I’R CYNTAF, 2 BWYNT I’R AIL, 1 PWYNT I’R TRYDYDD.

    EITEMAU CARTREF

    1. BRAWDDEG AR Y GAIR “ PATAGONIA”

    2. LIMRIG YN CYNNWYS Y LINELL “AM HYN RWY’N BREUDDWYDIO’N FEUNYDDIOL”

    3. BRYSNEGES AR Y LYTHYREN “B” ( DIM MWY NA 10 GAIR )

    4. TELYNEG – “NIWL”

    5. CERDD DDIGRI – “TWLL”

    ANFONER Y CYFANSODDIADAU ERBYN Y DYDDIAD CAU SEF DYDD GWENER, CHWEFROR 27ain 2015 AT EURFYL LEWIS, LLUEST, LLANGLYDWEN, HENDY GWYN AR DAF, SIR GAR, SA34 0XP. NI DDERBYNIR UNRHYW DDEUNYDD WEDI’R DYDDIAD CAU.

    AMODAU
    1. NI WOBRWYIR ONI BYDD TEILYNGDOD.
    2. BYDD Y TELERAU ARFEROL MEWN GRYM.
    3. Y CYSTADLEUWYR I OFALU AM GOPIAU I’R BEIRNIAID.
    4. CYMRAEG FYDD IAITH YR EISTEDDFOD A DISGWYLIR I IAITH YR EISTEDDFOD FOD YN WEDDUS BOB AMSER.
    5. BYDD BARN PWYLLGOR YR EISTEDDFOD YN DERFYNOL YMHOB DADL.
    6. Y GANGEN FUDDUGOL FYDD YN GYFRIFOL AM DDYCHWELYD Y TLWS I’R EISTEDDFOD NESAF.
    7. RHAID DANGOS PARCH TUAG AT Y BEIRNIAID HYD AT O LEIAF DDIWEDD YR EISTEDDFOD.
    8. UN CYNNIG A GANIATEIR O BOB CANGEN AR Y CYSTADLAETHAU LLWYFAN.
    9. DIM OND UN ENNILLYDD O BOB CANGEN FYDD YN CAEL PWYNTIAU YN YR ADRAN EITEMAU CARTREF.
    10. ENNILLYDD Y GORON A’R GADAIR FYDD YN GYFRIFOL AM EU DYCHWELYD I’R EISTEDDFOD NESAF.

    GWOBRAU
    1. NI DDYFERNIR GWOBR YN YR ADRAN EITEMAU CARTREF I ENILLYDD ABSENNOL.
    2. GWOBRWYIR CADAIR YR EISTEDDFOD I ENILLYDD Y GERDD DDIGRI.
    3. GWOBRWYIR CORON YR EISTEDDFOD I ENILLYDD Y DELYNEG.
    4. CYFLWYNIR TLWS CANGEN BECA I’R GANGEN A FWYAF O BWYNTIAU YNG NGHYSTADLAETHAU LLWYFAN.
    5. CYFLWYNIR TLWS YR EISTEDDFOD I’R GANGEN SYDD WEDI ENNILL Y MARCIAU UCHAF.
    6. CYFLWYNIR TLWS CANGEN ABERPORTH I’R GANGEN SYDD WEDI CYFLWYNO’R EITEM ORAU AR Y LLWYFAN YM MARN Y BEIRNIAID.

    HAWL I FYW
    Rwyt ti’n edrych ar fy llun mewn cydymdeimlad
    Rwyt ti’n gofyn pam fod hyn yn gorfod bod
    Rwyt ti’n colli ambell ddeigryn o dosturi,
    Ac rwyf innau’n ofni gweld yfory’n dod.
    (Cytgan)
    Ond fe’m ganwyd innau’n fab i fy rhieni,
    A fe glywais ddweud fod pawb yn blant i Dduw,
    Rwy’n frawd i ti a thithau’n frawd i minnau,
    O, pam na chaf i hefyd hawl i fyw?
    Do, mi welais y gwleidyddion yn mynd heibio,
    A phob un yn ysgwyd pen mor ddoeth, mor ddwys,
    Ac mi welais yr offeiriaid yn penlinio,
    Cyn fy mhasio am nad wyf i’n neb o bwys.
    (Cytgan)

    Ond fe fûm i’n chwarae unwaith gyda’m ffrindie,
    Ond fe’m gwelais hwy yn mynd o un i un,
    Mi gollais fy nhad un nos a mam un bore,
    A’m gadael innau ar fy mhen fy hun.
    (Cytgan)
    Ond mi glywais rai yn sôn am fynydd menyn
    Ac mi glywais rai yn sôn am lynnoedd llaeth,
    Ond mi wn na fyddech chi sy’n Gristionogion
    Yn caniatau gwastraffu bwyd a maeth.
    (Cytgan )