Skip to content

Dechrau blwyddyn

    Croesawyd un o’n haelodau ni i’n hannerch ym mis Ionawr sef Charles Arch.
    Trwy luniau a sylwebaeth soniodd am ei daith i Batagonia yn ystod yr Hydref. Gyda chymorth John Watkin cawsom awr ddifyr yn eu cwmni wrth iddynt ail fyw eu taith.
    Uchafbwynt y tymor hyd yn hyn oedd ennill tlws yr Eisteddfod Ffug yn Aberteifi. Cawsom gryn lwyddiant gyda John Jones yn ennill y goron.
    Wyn Griffith, y sylwebydd oedd y gwr gwadd am fis Mawrth. Fel bachgen a’i wreiddiau yn yr ardal, soniodd am y dylanwadau cynnar a fu arno wrth iddo dreulio llawer i wyliau gyda’i berthnasau yn Ffair Rhos. Dylanwadau a fu yn sail bendant i’w yrfa, wrth iddo deithio’r byd yn sylwebu ar amrywiaeth o chwaraeon.
    Fis nesaf disgwyliwn Rheinallt Llwyd atom i son ychydig am Hanes y Mynydd Bach.