Skip to content

Cymdeithas yr Hoelion Wyth yn cefnogi MIND a Gwylwyr y Glannau

    Yn ystod y flwyddyn diwethaf bu Cymdeithas yr Hoelion Wyth yn gwerthu ei raffl blynyddol yn ogystal a cynnal noson wych o adloniant yng Nghaffi’r Emlyn Tanygroes.

    O ganlyniad i’w hymdrechion, codwyd swm anrhydeddus o £1300 a cyflwynwyd £650 yr un i MIND a Gwylwyr y Glannau. Diolch o galon i bawb am eu cefnogaeth barhaol, gwerthfawrogir eich haelioni’n fowr.

    Eurfyl Lewis yn cyflwyno siec o £650 i Eirwen Booth, MIND. Hefyd yn y llun mae John Watkin a John Jones, cangen Cors Caron.

    Eurfyl Lewis, Cadeirydd Cymdeithas yr Hoelion Wyth yn cyflwyno siec o £650 i Bleddyn Evans, Gwylwyr y Glannau.