Skip to content

Cyflwyno Siec i Gymdeithas Stroc De Orllewin Cymru

    Yn y llun gwelir Calfin Griffiths, Cadeirydd Cymdeithas Cenedlaethol yr Hoelion Wyth yn cyflwyno siec am £400 i Alan Drury a Dr Nia Llewelyn o Gymdeithas Stroc De Orllewin Cymru. Hefyd yn y llun mae aelodau o ganghennau Aberporth, Beca, Cors Caron, Hendy Gwyn ar Daf a Sion Cwilt. Codwyd yr arian mewn noson gymdeithasol gynhaliwyd er budd yr elusen yng nghlwb carafannau’r Cwrwgle, Cenarth.