Skip to content

Cyfarfodydd Rhagfyr 18 a Ionawr 19

     

    HOELION 8 CANGEN CORS CARON- Cyfarfodydd Rhagfyr 2018 ac Ionawr 2019.

    Ymgasglodd criw da o aelodau ynghyd ar Ddydd Llun,Rhagfyr 17eg yng ngwesty’r Talbot I fwynhau gwledd y Nadolig a chymdeithasu cyn yr Wyl.
    Y gwr gwadd eleni oedd John M.O. Jones,y cyn bennaeth ysgol gynradd,bardd,awdur ac aelod o deulu adnabyddus Y Cilie.
    Roeddem wedi cael ychydig flas o’i ddawn arbennig I gyfleu gwybodaeth mewn modd cartrefol ac addysgiadol ddiwrnod y trip blynyddol o amgylch de’r sir wrth iddo ein tywys ar hyd llwybrau hud a lledrith cyfoethog beirdd y fro,megis Donald Evans,Dewi Emrys a T.Llew.
    Y tro yma cawsom ganddo hanes Teulu’r Cilie a chefndir ambell I gerdd megis yr englyn adnabyddus i’r Ceffyl Gwedd_-

    Ei hir oes yn y tresi-a dreuliodd
    hyd yr olaf egni.
    Lle bu’r we a’i llwybr hi,
    Ni wel wanwyn eleni.
    Hedfanodd yr orig yn ei gwmni,a barn unfrydol pawb oedd ein bod wedi cael dwy wledd mewn diwrnod.

    Yng nghyfarfod Ionawr ar y 25ain,Tom Marks oedd y gwr gwadd.Gwr a anwyd yn y fro,yn ucheldiroedd Lledrod,cyn symud I Lanarthne ac yna mynychu ysgolion cynradd ac Uwchradd Llanbedr Pont Steffan.Yn dilyn gyrfa prifysgol lwyddiannus,treuliodd ei yrfa’n addysgu’n Llanymddyfri.Tafodieithoedd oedd ei faes arbenigol,ond hefyd bu’n hyfforddi criced i’r disgyblion.Roedd e’n gricedwr o fri,ac yn ogystal a chwarae dros nifer o brif glybiau De Cymru,chwaraeodd I ail dim Morgannwg.

    Ond nid tafodieithoedd na chriced oedd testun ei anerchiad,ond pwnc agos iawn at galonnau nifer o’r Hoelion,sef ‘OS WYT BORTHMON’.
    Er fod nifer o’r aelodau’n credu eu bod yn gwybod llawer am y dynion arbennig yma,agorodd Tom ein llygaid I gyfoeth o wybodaeth ychwanegol am eu hynt a’u helynt.
    Unwaith eto ,mwynhawyd noson arbennig o addysgiadol a diddorol yn ei gwmni.