Skip to content

Cyfarfod Tachwedd 2023

    Cynhaliwyd ein cyfarfod misol ar nos Fercher, 29ain Tachwedd yng Nghaffi Beca, a’r gwr gwadd oedd y Bnr Hefin Wyn o Faenclochog yn siarad am ‘Frwydr y Preselau’.

    Gyda chymorth sleidiau gwelwyd lluniau o’r rhai a fu ar flaen y gȃd i’w gwarchod, a cafwyd ein hatgoffa ei fod yn bwysig i ni ddal ar bob cyfle i gofio’r hyn a ddigwyddodd dri chwarter canrif yn ol, er mwyn ‘cadw’r mur rhag y bwystfil ac i gadw’r ffynnon rhag y baw’.

    Sefydlwyd Pwyllgor Amddiffyn y Preselau, ac fe fu ‘na bwyllgora di-ri, ond fe newidiwyd yr enw wedyn i Bwyllgor Diogelu’r Preselau.

    Yn y lluniau gwelwyd llu o’r Gweinidogion wnaeth sefyll yn gadarn yn erbyn y bygythiad, ac yn eu mysg ‘roedd y Parchg. Llewellyn Lloyd Jones, un a oedd wedi ei eni a’i fagu yn Sir Fon, ond ar y pryd yn ei ofalaeth cyntaf ym Mrynberian a’r cylch.  Roedd Jenny Howell, Penanty yn son amdano’n pregethu hyd ddagrau dros heddwch.

    Hefyd y Parchedigion Joseph James (Jo) a Parry Robers (Parry bach), dau arall yn flaenllaw yn y frwydr, ynghyd a chymeridau fel Caleb Rhys o Fwlch-y-groes a Jac Trallwyn.

    A Dafi Adams wedyn, a baentiodd bictiwr mor dywyll a phosib, i ddau o swyddogion o’r Swyddfa Ryfel a ymwelodd a’r Preselau ar ddiwrnod niwlog iawn,  gan ddweud wrthynt “This mountain is covered in mist most of the year”.

    Er mae dim ond naw oedd yn bresennol oherwydd wahanol alwadau, rhaid dweud fod hon wedi bod yn noson ddiddorol iawn yng nghwmni Hefin.  Roedd y cawl ar ddiwedd y noson hefyd yr un mor flasus ag erioed.  Diolch Rob.

    IMG-20231201-WA0005