Skip to content

Cyfarfod Mis Tachwedd Cangen Cors Caron

    HOELION 8 Cors CARON
    Cynhaliwyd cyfarfod mis Tachwedd 2018 ar y 29ain yng ngwesty’r Talbot.Y gwr gwadd oedd Mr.Dai Meredith o Bontrhydfendigaid.
    Yn anffodus oherwydd anhwylder nifer o’r aelodau rheolaidd,methodd llawer a bod yn bresennol.Anfonir ein dymuniadau am wellhad buan I bob un heb enwi neb.
    Er mai dyn y filltir sgwar yw Dai,gwr o Bowys yw e.Cafodd ei eni’n Llanidloes cyn symud I’r Bont,ac hefyd treuliodd gyfnod yn Llundain bell yn gweithio mewn siop.
    Mae Dai wedi cyfrannu llawer I’r ardal ar hyd ei fywyd,a hynny’n dawel a di ffws,ac weithiau mae’n braf cydnabod a rhoi ‘croeso I broffwyd yn ei wlad ei hun’, I gyfrannwyr fel Dai I’r gymuned leol.Mae nifer cyffelyb ar hyd a lled y broydd hyn sy’n haeddu clod a chydnabyddiaeth am eu gwaith diflino.
    Wrth ein tywys drwy hanes ei fywyd,cawsom ein hatgoffa o fywyd y pentre yn y pumdegau pan oedd 20 busnes yn gwneud bywoliaeth yno a phob un yn llewyrchus.
    Aeth ymlaen wedyn I son am ei waith fel postman,a chafwyd nifer a straeon difyr a dwys am ei hynt a helynt ar y fan bost.Roedd nifer yn bresennol yn cofio’r cymeriadau’n dda,o’r Bont I Dregaron I Langeitho.Llanddewi,Bwlchyllan a Phenuwch,a rhoddodd Dai gyfle I bawb gyfrannu gyda’u hatgofion hwythau.
    Cynigiwyd y diolchiadau gan Selwyn Jones ac unodd pawb yn gytun bod hon wedi bod yn noson lwyddiannus arall.
    Edrychir ymlaen nawr I gyfarfod mis Rhagfyr.Byddwn yn cwrdd ganol dydd yng ngwesty’r Talbot ar yr 17eg I fwynhau ein cinio nadolig blynyddol.Y gwr gwadd fydd Mr.John M.O. Jones.Cofiwch roi eich enwau I’r ysgrifennydd,Mr.Geraint Morgan ar unwaith os dymunwch fod yn bresennol.