Skip to content

Cangen Cors Caron Tymor2016/17

    I agor ein tymor ym mis Medi,croesawyd John Glant Griffiths,o Ledrod. Bu John yn gweithio am flynyddoedd i’r ‘Comisiwn Coedwigaeth’ ac yn ddiweddarach i ‘Cyfoeth Naturiol Cymru’.
    Rhyw fraslun o’i waith a gawsom gan nodi arferion natur yn yr ucheldir, a soniodd am y nifer o ffermydd a thyddynnod sy bellach yn adfeilion.
    Cyfoethogwyd yr anerchiad wrth iddo ddangos sleidiau o’r ardaloedd lle bu yn llafurio. Derbyniodd anrhydedd yr MBE ychydig o flynyddoedd yn ôl am ei wasanaeth gyda’r comisiwn.
    Un o ddiddordebau John yw canu gwerin ac mae wedi diddanu nifer o gymdeithasau, a hefyd wedi ennill gwobrau lu mewn eisteddfodau.

    Un o’n haelodau ni ein hunain fu’n ein diddani ym mis Hydref sef y newyddiadurwr o’r Bont Lyn Ebenezer. Yn ôl ei arfer roedd Lyn yn hwyliog a diddorol wrth iddo olrhain ei gysylltiadau ag Iwerddon. Cawsom ganddo sawl stori ddoniol a hanesyddol yn ystod ei ymweliadau adeg y terfysgoedd. Fel y gwŷr llawer erbyn hyn cyhoeddodd Lyn gyfrol yn olrhain hanes y carchar yn Frongoch ger Y Bala, lle carcharwyd nifer o wrthryfelwyr adeg Gwrthryfel Y Pasg 1916. Yn ffodus cawsom fel cangen daith yn ystod yr haf i ymweld â’r safle ym Mrongoch yng nghwmni Lyn.

    Hanes Sioni Winwns gawsom ym mis Tachwedd gan arbenigwr yn y maes sef Gwyn Griffiths gynt o’r Berth ger Tregaron.
    Un o feibion yr ardal yw Gwyn ond wedi ymgartrefi yn ardal Pontypridd ers blynyddoedd. Mae Gwyn wedi gwneud ymchwil trwyadl i hanes Sioni yn dod i Gymru i werthu winwns. Croesi o Roscoff i Portsmouth oedd yr arfer ac yna teithio’r wlad ar feic gyda rhaffau o winwns yn crogi bob ochr i’r beic.
    Erbyn hyn mae yna Amgueddfa yn Roscoff La Maison des Johnnies yn nodi hanes ac arferion Sioni Winwns a neb llai na Gwyn a gafodd y syniad gwreiddiol o’i sefydlu.
    Mae Gwyn erbyn hyn aelod o Gymdeithas Confrerie y Sionis a chafodd ei urddo ar ddydd Sul 25 Awst 2013 a’i wisgo mewn cot addurnedig wedi ei gwneud a llaw,crys gwas fferm heb goler,crafat glas-lliw tref Roscoff-beret ac arno addurn ar ffurf winwnsyn coch, a throwsus du a medal y gymdeithas. Cawsom y fraint o weld Gwyn yn y wisg yn ystod y noson/

    Dathlu’r Nadolig wnaethom yng Ngwesty’r Talbot fel arfer ym mis Rhagfyr gyda chinio Nadolig traddodiadol a neb llai na Dai Jones Llanilar yn ŵr gwadd, sydd gyda llaw yn aelod o’r gangen erbyn hyn . Does dim angen ymhelaethu am gyfraniad Dai a mwynhawyd prynhawn hwyliog iawn.
    Edrychwn ymlaen yn awr at ail hanner ein tymor yn y flwyddyn newydd.