Skip to content

Yfwch win i hybu’r Brifwyl

    Mae menter a gychwynwyd gan fudiad Yr Hoelion Wyth eisoes wedi codi tua £15,000 tuag at achosion da. Mae’r achosion hynny’n cynnwys ysgol yn y Wladfa ac Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion Tregaron 2020.

    Mudiad cymdeithasol yw’r Hoelion Wyth sydd â chwech o ganghennau yn hen siroedd Dyfed. Mae’n fudiad i ddynion, yn cyfateb i’r hyn mae Merched y Wawr yn ei gynnig i wrywon. Gellid ei ddisgrifio fel cylch cinio heb y gloddesta ffurfiol.

    Cyn-gadeirydd Cenedlaethol y Mudiad, John Watkin, aelod o Gangen Cors Caron gafodd y syniad o farchnata gwin coch Malbec o’r Wladfa, gyda’r elw’n mynd at gynnal yr ysgol honno. Ganwyd y syniad pan fu John a ffrindiau allan yno dair blynedd yn ôl.

    ‘Roedden ni’n wynebu taith o’r Gaiman ar draws y paith i’r Andes,’, medd John, cyn gyfarwyddwr teledu sy’n byw yn Ffair Rhos. ‘Dyma drefnydd y daith, Jeremy Woods yn gofyn beth fyddai’n angenrheidiol ar gyfer y daith? Yr ateb a gafodd oedd gwin coch. Ac fe ymatebodd drwy drefnu i ni gael dau ddwsin o boteli o Malbec Patagonia.’

    Jeremy Woods oedd cyfarwyddwr ariannol Ysgol y Cwm yn Nhrevelin, ac o ddeall fod y Llywodraeth wedi atal grant yr ysgol dyma feddwl am ddull o godi arian tuag at yr achos. Ac un ateb oedd marchnata’r Malbec nôl yng Nghymru o dan yr enw ‘Meibion y Mimosa’. Erbyn hyn mae’r ysgol wedi derbyn £12,000 o werthiant y gwin, a bu John allan yn ddiweddar yn dadorchuddio plac i nodi’r fenter.

    Yn ddiweddarach cyfrannwyd £1,000 at ymgyrch Arch Noa. Ac yna, o glywed y byddai’r Brifwyl yn ymweld â Thregaron, aethpwyd ati i werthu mwy o’r gwin gyda’r elw’n mynd i goffrau’r pwyllgor cyllid. O fewn tair wythnos codwyd £1,000.

    Os oes gan rai o’r darllenwyr ddiddordeb mewn prynu gwin Malbec Patagonia, gan wybod y bydd yr elw’n mynd at achosion da fel Eisteddfod Cereigion Tregaron, cysylltwch â John Watkin (jobawat1@gmail.com).

    Llun: John Watkin (canol) ar ei ymweliad diweddar ag Ysgol y Cwm, Trevelin lle gosodwyd plac Yr Hoelion Wyth.