Skip to content

Rhaglen Yr Eisteddfod -2019

     RHAGLEN YR EISTEDDFOD
    EITEMAU LLWYFAN

    1. STORI A SAIN
    2. DWEUD JÔC NEU ADRODD STORI
    3. CÂN ACTOL NEU DDIGRI
    4. SGETS – AGORED ( DIM FWY NA 5 MUNUD )
    5. COR – CALON LANDISGWYLIR I BOB CANGEN GYSTADLU AR BOB UN O’R TESTUNAU LLWYFAN.
      MARCIAU : 5 PWYNT AM GYSTADLU, 3 PWYNT I’R CYNTAF, 2 BWYNT I’R AIL, 1 PWYNT I’R TRYDYDD.

      EITEMAU CARTREF

      BRAWDDEG AR Y GAIR “CEREDIGION”

      2. LIMRIG YN CYNNWYS Y LINELL “TRA’N CERDDED MYNYDDOEDD PRESELI”

      3. BRYSNEGES AR Y LYTHYREN “M” ( DIM MWY NA 10 GAIR )

      4. TELYNEG NEU CERDD GOFFA –   “COFIO”

      5. CERDD DDIGRI –   “CADW’N HEINI”

    ANFONER Y CYFANSODDIADAU ERBYN Y DYDDIAD CAU SEF DYDD GWENER, MAWRTH 8fed 2019 I EURFYL LEWIS, LLUEST, LLANGLYDWEN, HENDY GWYN AR DAF, SIR GAR, SA34 0XP.     E-Bost:   eurfyllewis@btinternet.com

    NI DDERBYNIR UNRHYW DDEUNYDD WEDI’R DYDDIAD CAU.

     

     

    AMODAU
    1. NI WOBRWYIR ONI BYDD TEILYNGDOD.
    2. BYDD Y TELERAU ARFEROL MEWN GRYM.
    3. Y CYSTADLEUWYR I OFALU AM GOPIAU I’R BEIRNIAID.
    4. CYMRAEG FYDD IAITH YR EISTEDDFOD A DISGWYLIR I IAITH YR EISTEDDFOD FOD YN WEDDUS BOB AMSER.
    5. BYDD BARN PWYLLGOR YR EISTEDDFOD YN DERFYNOL YMHOB DADL.
    6. Y GANGEN FUDDUGOL FYDD YN GYFRIFOL AM DDYCHWELYD Y TLWS I’R EISTEDDFOD NESAF.
    7. RHAID DANGOS PARCH TUAG AT Y BEIRNIAID HYD AT O LEIAF DDIWEDD YR EISTEDDFOD.
    8. UN CYNNIG A GANIATEIR O BOB CANGEN AR Y CYSTADLAETHAU LLWYFAN.
    9. DIM OND UN ENILLYDD O BOB CANGEN FYDD YN CAEL PWYNTIAU YN YR ADRAN EITEMAU CARTREF.
    10. ENILLYDD Y GORON A’R GADAIR FYDD YN GYFRIFOL AM EU DYCHWELYD I’R EISTEDDFOD NESAF.

     

     

    GWOBRAU
    1. NI DDYFERNIR GWOBR YN YR ADRAN EITEMAU CARTREF I ENILLYDD ABSENNOL.
    2. GWOBRWYIR CADAIR YR EISTEDDFOD I ENILLYDD Y GERDD DDIGRI.

    1. GWOBRWYIR CORON YR EISTEDDFOD I ENILLYDD Y DELYNEG.
      4. CYFLWYNIR TLWS CANGEN BECA I’R GANGEN A FWYAF O BWYNTIAU YNG NGHYSTADLAETHAU LLWYFAN.
      5. CYFLWYNIR TLWS YR EISTEDDFOD I’R GANGEN SYDD WEDI ENNILL Y MARCIAU UCHAF.
    2. CYFLWYNIR TLWS CANGEN ABERPORTH I’R GANGEN SYDD WEDI CYFLWYNO’R EITEM ORAU AR Y LLWYFAN YM MARN Y BEIRNIAID.

    EISTEDDFOD FFUG YR HOELION WYTH 2019

    NOS WENER, MAWRTH 15fed, 2019

    YNG NGHAFFI BECA, EFAILWEN

    AM 7.30 O’R GLOCH.

     

    CALON LAN

    Nid wy’n gofyn bywyd moethus,

    Aur y byd na’i berlau mân:

    Gofyn ‘rwyf am galon hapus,

    Calon onest, calon lân.

     

    Cytgan:

    Calon lân yn llawn daioni,

    Tecach yw na’r lili dlos:

    Dim ond calon lân all ganu-

    Canu’r dydd a chanu’r nos.

     

    Pe dymunwn olud bydol,

    Chwim adenydd iddo sydd;

    Golud calon lân, rinweddol,

    Yn dwyn bythol elw fydd.

     

    Hwyr a bore fy nymuniad

    Gwyd i’r nef ar adain cân

    Ar i Dduw, er mwyn fy Ngheidwad,

    Roddi i mi galon lân.