Skip to content

Hoelion wyth yn cefnogi Ysgol y Cwm Trefelin, Patagonia

    Cymdeithas yr Hoelion Wyth yn cefnogi Ysgol y Cwm Trefelin Patagonia unwaith eto

    Yn y llun gwelir Mici Plwm yn cyflwyno siec am £5000 i Ysgol y Cwm Trefelin ym Mhatagonia  drwy law Isaias Grandis ( yn wreiddiol o’r Wladfa ond sy’n byw yn Llanddarog erbyn hyn).

    Dyma’r ail flwyddyn yn olynol i Gymdeithas yr Hoelion Wyth gyflwyno siec am £5000 i ysgol y Cwm, codwyd yr arian drwy ymgyrch gwin Meibion y Mimosa sef drwy werthu gwin.

    Malbec P15 o Batagonia. Diolch o galon i bawb wnaeth gefnogi’r ymgyrch eleni eto, gwerthfawrogwn eich cefnogaeth yn fawr.