Eisteddfod Ffug yr Hoelion Wyth 2016
RHAGLEN YR EISTEDDFOD
EITEMAU LLWYFAN
1. Jôc
2. Unawd neu grŵp bach – unrhyw alaw werin (caniateir geiriau amgen)
3. Sgets – Y Castell
4. Côr – Sosban Fach (geiriau ar ddiwedd yr adroddiad yma)
Disgwylir i bob cangen gystadlu ar bob un o’r testunau llwyfan.
Marciau: 5 pwynt am gystadlu, 3 phwynt i’r cyntaf, 2 bwynt i’r ail, 1 pwynt i’r trydydd.
EITEMAU CARTREF
1. Brawddeg ar y gair TAFARN
2. Limrig yn cynnwys y llinell ‘Un diwrnod i lawr yn Sir Benfro’
3. Telyneg – Arwr
4. Baled/Cerdd Ddigri – Y Ddamwain
Anfoner y cyfansoddiadau erbyn y dyddiad cau, sef Dydd Gwener 26 Chwefror 2016, at y beirniad: Rhidian Evans (E-bost: rhidian_evans@hotmail.com),
neu bost arferol: Rhidian Evans, Dolawenydd, Heol Caemorgan, Aberteifi, Ceredigion, SA43 1QU.
Ni dderbynnir cynigion wedi’r dyddiad cau.
AMODAU
1. Ni wobrwyir oni bydd teilyngdod.
2. Bydd y telerau arferol mewn grym.
3. Y cystadleuwyr i ofalu am gopi i’r beirniad lle bo angen.
4. Cymraeg fydd iaith yr Eisteddfod a disgwylir i iaith yr Eisteddfod fod yn weddus bob amser.
5. Bydd barn pwyllgor yr Eisteddfod yn derfynol ymhob dadl.
6. Y gangen fuddugol fydd yn gyfrifol am ddychwelyd y tlws i’r Eisteddfod nesaf.
7. Rhaid dangos parch at y beirniad o leiaf hyd at ddiwedd yr Eisteddfod.
8. Un cynnig a ganiateir gan bob cangen ar y cystadlaethau llwyfan.
9. Dim ond un enillydd o bob cangen fydd yn cael pwyntiau yn yr adran Eitemau Cartref.
10. Enillwyr y Goron a’r Gadair fydd yn gyfrifol am eu dychwelyd i’r Eisteddfod nesaf.
GWOBRAU
Ni ddyfernir gwobr yn yr adran Eitemau Cartref i enillydd absennol.
Gwobrwyir cadair yr Eisteddfod i enillydd y Faled/Gerdd ddigri a choron yr Eisteddfod i enillydd y Delyneg.
Cyflwynir tlws Cangen Beca i’r gangen â’r nifer mwyaf o bwyntiau yn y cystadlaethau llwyfan.
Cyflwynir tlws Cangen Aber-porth i’r gangen sydd wedi cyflwyno’r eitem orau ar y llwyfan ym marn y beirniad.
Cyflwynir tlws yr Eisteddfod i’r gangen sydd wedi ennill y marciau uchaf.
Geiriau’r gan – Sosban Fach
Mae bys Meri Ann wedi brifo
a Dafydd y gwas ddim yn iach.
Mae’r baban yn y crud yn crïo
a’r gath wedi sgrapo Joni bach.
Sosban fach yn berwi ar y tân,
Sosban fawr yn berwi ar y llawr,
A’r gath wedi sgrapo Joni bach.
Dai bach y sowldiwr, Dai bach y sowldiwr
Dai bach y sowldiwr a chwt ei grys e ma’s.
Mae bys Meri Ann wedi gwella
a Dafydd y gwas yn ei fedd.
Mae’r baban yn y crud yn gwenu
a’r gath wedi huno mewn hedd.
Sosban fach yn berwi ar y tân,
Sosban fawr yn berwi ar y llawr,
A’r gath wedi sgrapo Joni bach.
Sut grys oedd ganddo, Sut grys oedd ganddo,
Sut grys oedd ganddo: Un wen â streipen las.
Sosban fach yn berwi ar y tân,
Sosban fawr yn berwi ar y llawr,
A’r gath wedi sgrapo Joni bach.