Skip to content

Cyfarchion Penblwydd – John Y Graig

    I GYFARCH JOHN Y GRAIG AR EI BENBLWYDD YN NAW DEG OED.

    Mae’n ddydd o lawen chwedl, i ni yr Hoelion Wyth,
    Cawn ddathlu yma’n llawen, yng nghwmni un o’r llwyth.
    Mae John y Graig yn naw deg, sai’n gallu credu hyn,
    Mae’n edrych lot ifancach, er fod ei wallt yn wyn!

    Mae’n serchog iawn bob amser, yn barod iawn ei wên,
    Yn ifanc iawn ei ysbryd, ni aiff e byth yn hen.
    Mae’n weithgar iawn, dim whare, yn driw o hyd i’w fro,
    Dyn hynod gymwynasgar, yw John y Graig bob tro.

    Bu’n hynod o gefnogol, i’r Pethe yn ddi baid,
    Mae rhain yn bwysig iddo, sef Capel, Urdd a’r Blaid.
    Rhaid talu teyrnged iddo, am weledigaeth gre,
    Ni fyddem yma heno, heblaw amdano fe.

    Efe a roes y sylfaen, i’n hoff gymdeithas wiw,
    Ni’n fawr ein dyled iddo, rwy’n siarad dros y criw.
    Ma hwn yn ddiymhongar, yn gadarn fel y Graig,
    Nid rhwd anrhydedd Hoelen, i’r crwt o ysgolhaig.

    Dymunwn benblwydd hapus, wrth uno i ganu’n groch,
    Mwynhewch eich dydd arbennig, da botel o win coch.
    Nawr Hoelion, wnewch chi sefyll, os gwelwch fod yn dda,
    I ganu penblwydd hapus a bloeddio iechyd da! Eurfyl