Skip to content

Tymor2016

    Un o’n haelodau ni ein hunain oedd ein gwr gwadd ym mis Ionawr, sef Charles Arch. Trwy luniau a sylwebaeth cawsom ganddo hanes ei daith i Batagonia yn yr Hydref. Gyda chymorth John Watkin cawsom ail fyw eu taith ar draws y paith wrth iddynt ymweld a llefydd lle’r ymsefydlodd y Cymry 150 o flynyddoedd yn ol.

    Uchafbwynt y tymor hyd yn hyn oedd ennill tlws yr Eisteddfod Ffug yn Aberteifi ac wrth i John Jones ennill y goron.

    Wyn Griffith, y sylwebydd oedd ein gwr gwadd ym mis Mawrth. Fel bachgen a’i wreiddiau yn yr ardal soniodd am y dylanwadau a fu arno yn ei blentyndod wrth iddo dreulio gwyliau gyda’i berthnasau yn Ffair Rhos, Dylanwadau a fu’n sail bendant iddo yn ei yrfa fel sylwebydd chwaraeon ar draws y byd.

    Fis Ebrill disgwyliwn Rheinallt Llwyd i son am hanes ‘Y Mynydd Bach’

    Yna i ddiweddu’r tymor fis Mai, edrychwn ymlaen at ein trip blynyddol. Does neb a wyr i  ble!!!