Trip yr Hoelion Wyth
Cafwyd diwrnod diddorol a phleserus iawn eleni eto ar ein trip blynyddol.
Ein cyrchfan cyntaf oedd Castell Aberteifi, lle cawsom ein tywys o gwmpas a chael ei hanes dros y canrifoedd.
Yna cafwyd awr neu ddwy i droedio strydoedd y dref gan dorri syched a chael pryd o fwyd.
Yna ymlaen ganolfan a distyllfa caws Teifi ar fferm o’r enw Glynhnod.
Yno cafwyd orig ddiddorol iawn yn cael hanes gwneud y gwahanol flasau o gin a mawr fu’r blasu.
Dawth y diwrnod i ben gyda swper yn nhafarn Ffostrasol, gyda phawb wedi mwynhau diwrnod da.
Diolch John Jones ein cadeirydd am drefnu.