Skip to content

Taith flynyddol Cangen Beca

    Ar fore braf ddydd Sadwrn Mai 12fed aeth criw ohonom ar ein taith flynyddol.  Y lle cyntaf i ymweld ag ef oedd tref Aberhonddu lle cawsom ychydig o amser rhydd i grwydro o gwmpas cyn cwrdd ar lanfa’r gamlas, ger y theatr.  Aethom am daith hamddenol mewn cwch ar gamlas Mynwy ac Aberhonddu am ryw ddwy awr a phrofi cael ein gostwng a’n codi mewn loc!

    Yn dilyn ein siwrne ar y gamlas aethom ymlaen ar y bws hyd yr A470 nes troi am bentref Penderyn lle cawsom ein tywys o gwmpas y distyllfa wisgi enwog; Penderyn.  Yn y pentref hefyd buom yn ymweld â thafarn hynafol Yr Oen sy’n cael ei redeg gan ŵr o Ben-y-bont Trelech. Mae’r tafarn yma’n enwog gan fod un o derfysgwyr Merthyr wedi cael ei gadw yn y seler dros nos 180 o flynyddoedd yn ôl cyn cael ei ddienyddio gyda Dîc Penderyn.

    Ar ôl gadael Penderyn fe wnaethom droi am adre gan aros yn nhafarn Y Bwthyn ger Llandeilo i gael swper blasus. Diolch yn fawr i Eurfyl am drefnu’r daith er nad oedd yn gallu bod yn bresennol a diolch hefyd i Tudur am yrru’r bws.