Skip to content

Taith Ddirgel Mai 2014

    Cynhaliwyd y daith ddirgel flynyddol ar nos Wener,; Mai 9fed. Bu rhaid newid y trefniadau oherwydd amgylchiadau anffodus ond cafwyd noson hwylus er gwaetha hynny. Ymwelwyd ag amgueddfa Arberth lle ceir arddangosfa wych o hanes Arberth a’r ardal yn amrywio o gwmni bragu James Williams i Derfysg Beca. Bu Daniel Sheen yn rhoi dipyn o hanes yr amgueddfa i ni yn ogystal â phwysleisio taw deunydd a chreiriau wedi ei gyfrannu gan bobol sydd yno’n gyfangwbwl. Diolchodd ein cadeirydd Nigel Vaughan i Daniel am y croeso ac am ein tywys o gwmpas. Aethom wedyn i Westy’r Angel yn Arberth i gael pryd o fwyd blasus a mwynhau orig yn cymdeithasu yng nghwmni’n gilydd. Diolchodd Nigel i Eurfyl am drefnu’r noson ac i bawb am gefnogi.

    2q36czk
    Aelodau’r gangen a Daniel Sheen