Skip to content

Taith ddirgel Hoelion Wyth Cangen Beca Mai 11eg

    Ar brynhawn hyfryd o Wanwyn aeth criw ohonom ar fws Midway, gydag Eifion wrth y llyw, ar daith ddirgel a drefnwyd gan Eurfyl. Teithio tua’r gogledd o’r Efailwen a chyrraedd ein lleoliad cyntaf o fewn llai nag awr, sef Gwersyll yr Urdd Llangrannog, lle ein croesawyd gan Iestyn Evans, un o reolwyr y ganolfan. Cawsom ein harwain i’r ffreutur fodern newydd lle roedd golygfa fendigedig o’r môr a’r arfordir cyfagos a dished a waffls yn ein disgwyl. Yna, tywysodd Iestyn ni o gwmpas y safle sydd ag adnoddau a darpariaethau gwych i fynychwyr y gwersyll. Mae’r lle wedi newid ac addasu llawer ers y bu y mwyafrif ohonom yno ddiwethaf!

    Mynwent eglwys Llangrannog oedd y cyrchfan nesaf, lle wnaethom ymweld â bedd Sarah Jane Rees neu fel sy’n fwy cyfarwydd i ni, Cranogwen (ei henw barddol ) cyn symud ymlaen i’r ardd goffa lle mae cerflun ohoni.  Daeth Carys Ifan i’n cyfarfod yno a chyflwynodd i ni hanes ddiddorol o fywyd Cranogwen.

    Gorffennwyd ein taith yn mwynhau gwledda a chymdeithasu yn nhafarn y Pentref.  Roedd hi’n noswaith fendigedig ac oni bai ein bod yn gwybod yn wahanol, gallech dyngu ein bod ar y cyfandir! Ond sdim lle gwell nag arfordir Ceredigion a Phenfro pan fo’r tywydd yn braf. 

    Bedd Cranogwen yn mynwent Eglwys Llangrannog
    Carys Ifan yn rhoi cyflwyniad
    Yn yr ardd goffa
    Rhoi’r byd yn ei le ar a rôl swper