Skip to content

Taith Ddirgel 2017

    I orffen y tymor eleni, ar Nos Iau, Ebrill 20fed aeth yr aelodau ar eu ‘Taith Ddirgel’ flynyddol.
    Ar ôl teithio tipyn ar y ffordd o Glunderwen i Faenclochog aethpwyd ymlaen i’r Preselau gan aros wrth y Gofeb sydd yn nodi brwydr pobl Mynachlogddu a’r ardal i wrthsefyll cynlluniau’r Weinyddiaeth Amddiffyn i droi ardal eang yn le ymarfer i filwyr Prydeinig ac Americanaidd.
    Bu Mel Jenkins yn rhoi ychydig o’r hanes sy’n cofnodi llwyddiant y brotest a braf oedd gweld llun o’r Parchg. R. Parri-Roberts ar y Gofeb.

    Ymlaen wedyn i’r lle a drefnwyd i ymweld – sef Bragdy’r Garreg Las ger Cilgwyn, Cwm Gwaun. Agorwyd y bragdy yn fferm Tyriet a dechreuwyd y fenter bum mlynedd yn ôl gan y perchennog a’i ferch. Tenantiaid oeddynt, ond cafwyd cyfle, yn 2012, i brynu’r fferm a gwneud y penderfyniad i arall-gyfeirio gan ddechrau bragu cwrw, ac yn ystod y pum mlynedd mae wedi mynd o nerth i nerth wrth iddynt fragu sawl math o gwrw a lager. Mae’r cwrw yn cael ei ddosbarthu dros ardal eang, i fwytai, gwestai a thafarndau. Yn ogystal, maent yn gwneud busnes da ar-lein ac hefyd yn allforio.

    Cafwyd fideo a chyflwyniad Cymraeg, yn dangos ac egluro’r broses o’r dechrau i’r diwedd. Cafwyd cyfle wedyn i flasu a phrynu’r cwrw a chyn gadael, diolchodd y Cadeirydd i’r teulu am eu croeso cynnes.

    Aethpwyd ymlaen wedyn i Tafarn Sinc, Rose Bush am swper blasus iawn. Diolchwyd i Mel Jenkins (Y Swyddog Adloniant) am drefnu’r daith a fwynhawyd gan bawb.
    Cyn gadael, cymerodd y Cadeirydd y cyfle i ddiolch i swyddogion y gangen am eu gwaith yn ystod y flwyddyn ac i’r aelodau am eu presenoldeb yng nghyfarfodydd y tymor.