Taith Ddirgel Cangen Beca 2016

    I orffen tymor 2015-16 aethom ar ein taith ddirgel flynyddol. Ar ôl taith byr ar y bws, a yrrwyd gan Eifion, cyrhaeddom Bragdy ‘Bluestone’, mhen uchaf cwm Gwaun.
    Croesawyd ni i’r bragdy gan Amy Turner a chafwyd cyflwyniad ganddi a oedd yn cynnwys ffilm fer yn yr ystafell hyfforddi. Mae’r bragdy wedi ei enwi ar ôl y cerrig glas (Dolerite) sy’n awlwg iawn yn ardal y Preseli ac sydd wedi eu defnyddio yn adeiladau’r fferm. Cyn gadael yr ystafell hyfforddi cafwyd siawns i flasu peth o’r cynnyrch cyn symud ymlaen i’r bragdy. Roedd y cwrw yn flasus iawn, trueni bo rhai ohonom yn gorfod gyrru yn hwyrach ymlaen yn y noson!
    Dywedodd Amy fod ei theulu wedi ffermio Tyriet ers dros dri deg o flynyddoedd a bo’r bragdy, sy’n cael ei redeg ganddi hi a’i thad Simon, wedi agor ers 2013. Mae ei mam Ceri yn dal i ffermio’r tir yn organig.
    Tywyswyd ni o gwmpas y bragdy gan Amy. Dywedodd mai ei thad Simon oedd y bragwr a’i bod hi’n gyfrifol am farchnata a’r gwerthiant; swydd oedd wedi ei threfnu iddi heb iddi wybod! Tra yn y bragdy eglurodd Amy’r prosesau oedd yn digwydd yn y gwahanol offer. Dywedodd eu bod yn defnyddio dŵr naturiol o’r ffynnon ger y fferm i fragu’r cwrw. Mae’r dŵr yn llifo drwy’r ddaear ac yn weddol bur ond yn cael ei ddiheintio drwy ddefnydd golau uwch fioled.
    Mae’r dŵr poeth yn cael ei ychwanegu i danc sy’n cynnwys y barlys brag ac yn cael ei gymysgu i greu stwnsh. Mae hwn yn sefyll am tuag awr a hanner i greu hylif o’r enw breci sydd yn cael ei ddreinio i ffwrdd. Mae gweddill y siwgwr yn y brag yn cael ei olchi. Mae’r breci wedyn yn cael ei drosglwyddo drwy wely ffiltro i grochan lle mae’n cael ei ferwi am ychydig dros awr. Caiff hopys amrywiol eu ychwanegu ato yn yr amser hwn. Ar ôl y broses berwi mae’r breci yn cael ei ddanfon drwy offer oeri lle mae’r tymheredd yn cael ei leihau i 21 gradd canradd. Y broses nesaf ydi ychwanegu’r berem ac mae’r cymysgedd hyn yn sefyll am saith diwrnod i greu alcohol (y cwrw) a charbon deuocsid. Mae’r cwrw yn cael ei dynnu i gasgenni ac mae peth yn cael ei ddanfon i ffatri i’w rhoi mewn poteli. Barlys a hopys o Brydain sy’n cael ei ddefnyddio fel arfer ac mae lliw’r cwrw yn dibynnu ar faint o amser mae’r barlys wedi cael ei rostio
    Nid oes gwastraff i’r broses gan fod y berem, hopys a’r grawn yn cael ei ddefnyddio fel bwyd i’r anifeiliaid ac mae’r hylif yn cael ei ffiltro drwy system arbennig cyn cael ei ollwng i ddyfrhau tir y fferm.
    Braf oedd cael ymweld â busnes bach lleol, llewyrchus a diolchwyd i Amy gan y Cadeirydd am y cyflwyniad diddorol a’r cwrw.
    Yna aethom i Dafarn Sinc i gael mwynhau pryd o fwyd. Diolchodd y Cadeirydd i Brian a Hafwen am y bwyd blasus, i Eurfyl ac Wyn am drefnu’r daith a Eifion am yrru’r bws unwaith eto.