Skip to content

Taith Ddirgel

    Gorffenwyd y tymor eleni, fel arfer, gyda Taith Ddirgel.  Y gyrchfan oedd Fferm Geffylau Gwêdd Dyfed yn Eglwyswrw, Sir Benfro.  Mae’n atyniad twristiaid poblogaidd ger mynyddoedd y Preseli ac wedi bod yn gartref i deulu’r Lewis ers 1849.

    Cafwyd croeso arbennig gyda chwpanaid o de a chacen yn ein disgwyl.  I ddechrau aethom mewn tractor a threilar o amgylch y fferm i gyd, gyda Marc Cole, ŵyr John Rees Lewis yn rhoi hanes y teulu a’r modd y datblygodd y fferm. Ceffylau Gwêdd oedd yn gwneud y gwaith i gyd ar y tir cyn dyfodiad y tractor, ond er i’r ceffylu orffen gweithio, mae’r teulu yn dal i fagu a dangos yr anifeiliaid hardd yma. Wedyn, aeth pawb i’r stablau i weld un o’r ceffylau yn cael ei wisgo yn yr offer gweithio a’i weld wedyn, gyda un o’r merched yn ei arwain, yn rhoi arddangosiad yn tynnu og-gadwyn dros un o’r caeau.

    Diolchwyd i’r teulu am noson ddiddorol ac ar ôl ffarwelio aethom i Westy Llwyngwair am swper.  Cafwyd noson bleserus dros ben.  Diolchodd y Cadeirydd i Mel Jenkins am drefnu’r cyfan ac hefyd i swyddogion y gangen am eu gwaith yn ystod y tymor, heb anghofio ffyddlondeb yr aelodau i’r cyfarfodydd misol.

    Hoelion 8 HDG-Llun Trip

    Aelodau’r gangen yng nghwmni Marc Cole (ar y dde)