Skip to content

Tachwedd 2022

    Pleser mawr oedd cael cwmni yr athro a’r hanesydd, Hedd Ladd Lewis o Foncath i gyfarfod mis Tachwedd. Croesawyd ef atom gan Eifion Evans, ein cadeirydd.

    Mae diddordeb enfawr gan Hedd mewn hanes ei deulu ac hanes dau o’i hen berthnasau cawsom ar y noson, drwy ffurf cyflwyniad taflunydd ar y sgrin. Y ddau dan sylw oedd Owen Ladd (1888 -1915) a John Emrys Ladd. Roedd Owen yn hen-hen ddatcu i Hedd a John Emrys yn gefnder i Owen.

    Er yn wreiddiol o ardal Gogledd Sir Benfro, roedd Owen yn byw yn Winnipeg, Maniotoba, Canada. Roedd ar siwrne yn ôl i Gymru yn 1915 ac yn un o 2000 o deithwyr oedd ar fwrdd yr R.M.S. Lusitania.  Ar y 7fed o Fai tua 2.30 y prynhawn ar long ger penrhyn Kinsale, Gorllewin Iwerddon, fe wnaeth un torpido o long tanfor U20 yr Almaen ddryllio’r llong ac o fewn 20 munud roedd wedi suddo gyda cholledion o tua 1200 o fobol yn cynnwys Owen a llawer o blant. Roedd y ffaith bod y llong wedi suddo mor gyflym yn creu amheuaeth am ei chargo, y cred oedd ei bod yn cario ffrwydron  ac arfau rhyfel o’r Amerig i Brydain er mwyn helpu achos y rhyfel.  Nid oedd y Morlys Prydeinig yn fodlon cyfaddef bod y llong yn cario ffrwydron ac yn yr ymchwiliad cyhoeddus daethant i’r casgliad anghywir bod y llong wedi ei tharo gyda dau neu fwy o dorpido’s.  Mae na ddamcaniaeth bod y morlys wedi hanner gobeithio y bydde’r llong yn cael ei suddo er mwyn codi gwrychyn yr Amerig hyd fath raddau, fel bo hwy hefyd yn  ymuno yn y rhyfel.

    Roedd John Emrys Ladd yn aelod o Ffiwsilwyr Brenhinol Cymru a cafodd ei orfodi i fynd i ymladd yn Ffrainc yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.  Yn y cyfnod pan oeddent yn bell o’r llinell flaen, roedd rhaid i’r milwyr Cymraeg ei iaith ysgrifennu llythyron i’w teuluoedd yn yr iaith Saesneg. Pan oeddent ar fin gadael y ffosydd i frwydro yn erbyn y gelyn, roeddent yn cael ysgrifennu’n Gymraeg. Collodd John Emrys ei fywyd ym mrwydr Arras, Gogledd Ffrainc ar y 15fed o Fehefin 1917.  Y dau gefnder wedi ei lladd o achos y Rhyfel Byd Cyntaf.

    Er mor drist oedd yr hanes, roedd hi’n ddiddorol i glywed am y ddau gefnder. Diolchodd Eifion i Hedd am y cyflwyniad.  Darparwyd cawl ar ein cyfer gan Robert a diolch iddo yntau hefyd am hynny ac am gael defnydd y caffi.