Cynhaliwyd ail gyfarfod y tymor ar Nos Iau, Tachwedd 4ydd yn Lolfa Clwb Rygbi Hendygwyn. Estynwyd croeso cynnes i’r siaradwr gwadd, sef Dai Rees (yn wreiddiol o San Cler) ond yn awr yn byw yn Sir Benfro.
Wedi ymddeol yn 1992, bu’n heddwas gyda Heddlu Dyfed Powys gan weithio mewn llawer tref ac ardal. Fel ditectif, bu’n gweithio am ddwy flynedd a hanner ar ‘Operation Julie’- un o’r achosion mwyaf yn ymwneud â chyffuriau a gynhaliwyd erioed.
Ar ôl ymddeol, cafodd ddamwain difrifol a allai fod wedi ei adael wedi ei barlysu. Ar ôl gwella, teimlodd fel rhoi rhywbeth yn ôl i gymdeithas am ei wellhad; dechreuodd gefnogi elusen ‘Jubilee Sailing Trust’. Elusen yw hon sy’n cynnig mor-deithiau ar long hwyliau, i bobl o bob oedran sy’n dioddef o unrhyw anabledd, naill yn gorfforol neu yn feddyliol.
Pan mae’r teithwyr yma ar fwrdd y llong, hyd yn oed os mewn cadair olwyn, maent yn gorfod gweithio i hwylio’r llong yn ddiogel.
Roedd gan yr elusen ddwy long, sef y ‘Lord Nelson’ sydd wedi ei datgomisiyni erbyn hyn, a ‘Tenacious’. Bu Dai ar lawer mordaith yn cynorthwyo’r teithwyr gyda’u problemau. Aeth â hwy ar fordaith i Dunkirk a chafwyd hanes o’r ymweliad â’r Bont ‘Pegasus’ a’r Caffi ‘Pegasus’ yn Normandy.
Roedd hwn yn gyflwyniad ardderchog a gyda chymorth sleidiau, yn dangos gwaith pwysig yr elusen. Cafodd gymeradwyaeth wresog a diolchwyd iddo gan Verian Williams.