Skip to content

Tachwedd 2019

    Yng nghyfarfod mis Tachwedd, y siaradwr gwâdd oedd Dafydd Evans – yn wreiddiol o Feidrim ond yn awr yn byw gyda’i briod rhwng Meidrim a Threlech.  Mae’n gyn-athro gan orffen ei yrfa fel Pennaeth Ysgol Gynradd Cwmbach – yr olaf cyn i’r ysgol gau.

    ‘Dawnsio Gwerin’oedd pwnc ei gyflwyniad.  Mae’n un o’r aelodau cyntaf o’r grŵp ‘Dawnswyr Talog’ ac fe dalodd deyrnged i Eirlys a Mansel Phillips, ac Eirwen Davies am ei sefydlu yn 1979.

    Yn y dechreuad, cynnal twmpathau dawns ac ambell arddangosfa oedd ar y calendr, ond yn dilyn llwyddiant ar hyd y blynyddoedd, mae pawb yn gwybod amdanynt fel un o’r grwpiau dawnsio anhygoel Cymru.

    Mae Dafydd wedi teithio’n helaeth gyda’r grŵp gan ddawnsio mewn llawer gwlad yn Ewrop a thu hwnt, a thrwy ddawnsio cyfarfu â’i briod Bobi, a phriodi yn 1985.

    Mae Dawnswyr Talog wedi cystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol, yr Urdd a Cherdd Dant.

    Mae Dafydd a’i briod gydag aelodau o grwpiau Dawnsio Gwerin eraill wedi sefydlu Grŵp o dan yr enw ‘Parti Tipyn o Bopeth’ – hyn er mwyn cael mynd i wahanol wyliau dawnsio gan gynnwys yr Ŵyl Ban Geltaidd yn Iwerddon.

    Mae Dafydd a Bobi wedi gwneud ffrindiau oes mewn llawer o wledydd trwy ddawnsio gwerin ac wedi mwynhau bob munud.

    Cafwyd cyflwyniad diddorol yn llawn hiwmor, a hyn gyda chymorth lluniau ar y sgrin.  Diolchwyd iddo ar ran pawb, gan Glyn Evans.