Skip to content

Tachwedd 2018

    Yng nghyfarfod mis Tachwedd, y siaradwr gwadd oedd Malcolm Thomas o bentref Llangynog; estynnwyd croeso cynnes iddo gan y Cadeirydd, Claude James.
    Mae Malcolm yn gyn-ddisgybl o Ysgol Llansteffan ac Ysgol Ramadeg y Bechgyn, Caerfyrddin, yn fab fferm ac mae wedi ymwneud ag amaethyddiaeth drwy gydol ei yrfa, er nid yn ffermwr ei hunan.

    Dechreuodd yn y Gwasanaeth Sifil gyda MAAF (Ministry of Agriculture, Fisheries and Food). Yn ystod yr amser hyn bu’n gweithio yn y Swyddfa Gymreig ac hefyd ym Mrwsel – bu yno am flwyddyn a hanner.
    Ar ôl cyfnod yn y Gwasanaeth Sifil, cafodd swydd gan N.F.U. a bu’n gweithio yn Swyddfa Stonleigh am bum mlynedd cyn ymddeol yn ifanc. Dywedodd, pan oedd fferm ei dad yn cynhyrchu llaeth, roedd 38 o ffermydd godro yn yr ardal. Erbyn hyn, mae 2 fferm fawr yn unig a’r ddwy hynny yn cynhyrchu mwy o laeth na’r 38 arall gyda’i gilydd ! !

    Pedwar digwyddiad brawychus ddaeth ar ei draws yn ystod ei yrfa oedd – Cwotas Llaeth, Chernobyl, Clwy’r Traed a’r Genau a B.S.E.
    Ar ôl ymddeol o’r N.F.U. cafodd swydd gan Gwmni Cyfreithwyr JCP yn delio â materion amaethyddol. Yn ogystal â’r swydd honno, mae’n Gadeirydd dros Gymru a Lloegr ar yr elsen R.A.B.I. – sy’n cynnig cyngor a chymorth ariannol i’r sector amaeth. Mae’r taliadau yma yn cyrraedd £2 miliwn y flwyddyn gyda £300,000 yn mynd i ardaloedd yng Nhymru. Help tymor byr yw’r cymorth ac eleni mae’r taliadau i fyny 4% ar llynedd.

    Roedd yn gyflwyniad hynod o ddiddorol a diolchwyd iddo gan Trefor Evans.