Skip to content

Tachwedd 2017

    Ein siaradwraig wadd ym mis Tachwedd oedd y Parchedig Beti Wyn James o Gaerfyrddin a chroesawyd hi gan Eifion Evans y Cadeirydd.

    Magwyd hi yng Nghlydach a chafodd ei sefydlu yn weinidog gyda’r annibynwyr  mewn capel o 400 o aelodau yn y Bari. Mae wedi bod yn weinidog yn y Priordy Gaerfyrddin a Bancyfelin ers tua 15 mlynedd.

    Testun ei chyflwyniad  oedd ei phrofiadau hi a’r teulu wrth ddilyn llwybr  MariJones a gerddodd dau ddeg wyth milltir o Lanfihangel y Pennant  i’r Bala i brynu Beibl wrth Thomas Charles. Gan fod ei merch wedi cael ei dewis fynd ar daith yr Urdd i Batagonia roedd rhaid iddi godi arian i gyfrannu at y siwrne.  Un o’i syniadau i godi arian oedd taith gerdded yn dilyn llwybr Mari Jones dros y tir yn hytrach na’r heolydd.  Buont yn dilyn y  llwybr a awgrymwyd yn llyfr Mary Thomas (Taith Mary Jones – Cyhoeddiad Cymdeithas Y Beibl) dros gyfnod o dri diwrnod.

    Dechreuwyd y daith wrth gofgolofn Mari yn Dŷ’n y Ddol cyn ymweld ag eglwys Llanfihangel y Pennant a mynd ymlaen i gyfeiriad Minffordd a Cross Foxes.  Treulion nhw’r noson hwnnw mewn carafán ym Mrithdir. Taith o’r Brithdir drwy Dolfelin i  Lanuwchllyn  oedd y cam nesaf, ac ar y trydydd diwrnod ymunodd y cyn darlledwr Sulwyn Thomas a’i wraig gyda’r teulu a buont yn gyd gerdded hyd at gofgolofn Thomas Charles yn y Bala  a’r arddangosfa ‘Byd Mary Jones’ yn yr hen eglwys yn Llanycil.

    Roedd ei chyflwyniad yn hynod ddiddorol a diolchwyd iddi gan Eifion a Ken.  Ar ddiwedd y noson darparwyd cawl are ein cyfer gan Robert.

    O.N.

    Mae’r llyfr sy’n disgrifio’r llwybr ar gael wrth Gymdeithas Y Beibl neu gallwch ei weld ar y we wrth ddilyn y linc https://www.biblesociety.org.uk/content/about_us/our_history/files/mary_jones_walk_guide-2015.pdf