Skip to content

Tachwedd 2016

    Cynhaliwyd cyfarfod cangen Hendygwyn ym mis Hydref, fel arfer, yn Lolfa’r Clwb Rygbi.
    Ar ôl croesawu pawb, cyflwynodd y Cadeirydd y siaradwr gwâdd, sef Hefin Wyn o Faenclochog.   Mae Hefin yn adnabyddus fel bardd, darlithydd, darlledwr, hanesydd ac yn aelod brwdfrydig o Gymdeithas Waldo.
    Mae’n medru siarad neu ddarlithio ar lawer pwnc, ond roedd ei sylwadau,y tro hwn, yn seiliedig ar gymeriadau ei fro – y cymeriadau hynny oedd yn medru adrodd storiau  (oedd yn amlwg yn gelwydd) ond yn eu dweud fel petaent yn wirionedd pur!
    Cafwyd awr ddiddorol iawn wrth wrando ar hiwmor cefn gwlad.     Diolchwyd i Hefin am noson ragorol gan Ithel Parri Roberts.