Skip to content

Tachwedd 2015

    Yng ngyfarfod mis Tachwedd, y siaradwr gwâdd oedd Huw John o Peniel (gynt o Crymych).

    Rhai blynyddoedd yn ôl bu Huw a’i ddiweddar wraig a’i ddiweddar ferch ar eu gwyliau ym Mhensylvania yn yr Amerig, Trwy gyfrwng gair a sleidiau, cyflwynodd fywyd yr Amish – pobl o dras Almaeneg a’r Iseldiroedd sydd wedi ymgartrefu yn y rhan yma o’r Amerig, a hynny ers dau gant o flynyddoedd.

    Pobl grefyddol iawn sy’n byw yn syml, y rhan fwyaf yn amaethu (a hynny gyda milod neu geffylau, yn lle peiriannau). Trap a cheffyl yw’r ffordd y maent yn mynd o le i le – dim modur yn agos i’r lle Pobl goddefgar yn diogelu eu preifatrwydd, yn gwisgo’n syml a neb yn berchen radio, theledu na ffôn heblaw am un yn y gymuned er mwyn i’r trigolion ffono allan. Roedd rhan fwyaf o deuluoedd â phump neu chwech o blant gyda addysg yn bwysig iawn.

    Yr oedd yn gyflwyniad diddorol dros ben a diolchwyd i Huw gan Myrddin Parry.