Skip to content

Tachwedd 2014

    Yn ein cyfarfod mis Tachwedd cyflwynwyd ein gwestai Mrs Elsa Davies  Bancyfelin gan ein Cadeirydd Wyn Evans. Cawsom noswaith ddifyr iawn yn ei chwmni yn son rhywfaint am ei bywyd a’i gyrfa. O Glydach yn wreiddiol, ond mae ei gwreiddiau o ochr ei mam  yn ddwfn yn ardal wledig Llanycefn, lle bu’n mwynhau gwyliau plentydod hapus iawn.

    Yn hwyrach aeth yn fyfyrwraig i Brifysgol Abertawe ag ar ôl llwyddo yno cafodd ei hapwyntio yn athrawes yn un o ysgolion Sir Forgannwg. Yn dilyn ei phriodas symudodd i Lundain lle cafodd swydd Dirprwy Brifathrawes yn Hillingdon ag yn fuan iawn cafodd ei apwyntio yn Brifathrawes, a bu, yn ystod ei gyrfa yn y byd addysg yn Brifathrawes ar nifer o ysgolion a hefyd yn ystod yr amser yma bu yn ehangu ei gorwelion trwy deithio; bu ar ymweliad â’r Unol Daleithiau er mwyn astudio datblygiadau addysgiadol yno, ag astudiodd i sicrhau  gradd MA o Brifysgol Llundain. Yr oedd yn amlwg o’i sylwadau ei bod yn flaengar iawn yn hel syniadau, ag ymgyrchodd i ddatblygu y syniadau yn helaeth trwy gyfrannu i lawer o bwyllgorau ag ysgrfennu am ei phrofiadau.

    Yn hwyrach penodwyd hi yn Brif Weithredwraig dros y Gymdeithas Meysydd Chwarae,  nawr roedd ganddi gyfrifoldeb cenedlaethol i warchod buddiannau y mudiad a diddorol oedd ei chlywed yn sôn am rai o’i  brwydrau gyda rhai o fobl mwyaf grymus a phwerus y sefydliad pan oedd pwysau i werthu’r tir ar draul ei gadw yn eiddo i’r cyhoedd.Mae Elsa yn parhau i weithio yn y gymuned ag yn gefnogol iawn i fudiadau lleol.

    Diolchwyd iddi yn wresog gan Claude James.