Skip to content

Tachwedd 2014

    Tach

    Cynhaliwyd trydydd cyfarfod y tymor o Hoelion Wyth cangen Beca yng nghaffi Beca, Efailwen ar nos Fercher, Tachwedd 26ain. Cafwyd gair o groeso gan y cadeirydd Nigel Vaughan cyn iddo gyflwyno a chroesawu gŵr gwadd y noson sef Aled Scourfield o Mynachlogddu. Bu Aled yn sôn am ei waith fel newyddiadurwr a gohebydd gyda’r BBC ac esboniodd yn fanwl beth yw ei ddyletswyddau o ddydd i ddydd. Rhai blynyddoedd nôl byddai criw o bobol yn gyfrifol am gyflwyno eitem ar y newyddion yn cynnwys y gohebydd, dyn camera, dyn sain, golygydd ac ati. Erbyn hyn, mae Aled yn gorfod gwneud y cyfan ei hunan sy’n ychwanegu at y pwysau gwaith. Bu Aled hefyd yn dangos clipiau o eitemau newyddion fu’n ei cyflwyno dros y blynyddoedd diwethaf. Cafwyd noson ddiddorol iawn yn ei gwmni a diolchwyd i Aled gan Gwyndaf Evans . Roedd Robert wedi paratoi cawl bendigedig i bawb yn ôl ei arfer, diolch Rob!