Skip to content

Tachwedd 2013

    Cynhaliwyd trydydd cyfarfod y tymor o Hoelion Wyth cangen Beca yng nghaffi Beca, Efailwen ar nos Fercher, Tachwedd 27ain. Cafwyd gair o groeso gan y cadeirydd sef Nigel Vaughan cyn iddo gyflwyno a croesawu gŵr gwadd y noson sef Gwyn Griffiths o Bontypridd. Bu Gwyn yn drefnydd yr Urdd yn Shir Benfro yn ystod y 60au ac mae wedi cyhoeddi sawl llyfr ar dafodieth y Shir yn cynnwys ”Wes, wes”, “Wes wes weth” a ”Wes wes shwrne to”. Mae hefyd yn aelod o Gymdeithas y Cymod ond testun arall oedd ganddo ar ein cyfer ar y noson yma sef “Shoni Winwns”. Esboniodd bod ganddo ddiddordeb mawr yn y “Shoni Winwns” ers dyddiau ei blentyndod pan gwelodd hwy am y tro cyntaf yn galw heibio ei gartref ar gefn eu beics yn gwerthu rhaffed mowr o winwns. Mae wedi ymweld a Llydaw droeon dros y blynyddoedd ac wedi cyhoeddi llyfr ar y “Shoni Winwns”. Mae bellach yn gymrawd o “Gyndeithas y Shoni Winwns” ac roedd wedi dod yn ei wisg swyddogol. Diolchwyd i Gwyn am noson hynod ddiddorol gan Gwyndaf Evans ac ategwyd y diolch ymhellach gan Huw Griffiths. Roedd Robert wedi paratoi basned o gawl bendigedig i bawb ar y diwedd – diolch Rob!

    DSCN4027