Skip to content

Tachwedd 2012

    Cynhaliwyd y cyfarfod misol ar y 1af o Dachwedd yn lolfa’r Clwb Rygbi Hendygwyn. Croesawodd y llywydd Eric Hughes ein gwr gwâdd sef Y Parchedig Geraint Davies o Gaerfyrddin. Bu’n sôn am yr ardaloedd bu’n gweinidogaethu ynddynt cyn mynd ymalen i siarad am ‘Ddyfodiad y Seintiau yn y dyddiau cynnar yng ngorllewin Cymru’. Roedd ei gyflwyniad yn ddiddorol ac yn llawn hiwmor ac roedd yn amlwg ei fod wedi gwneud ymchwil manwl i’r pwnc dan sylw. Bu’n ateb rhai cwestiynnau oddi wrth yr aelodau. Gwnaed y diolchiadau gan Myrddin Parry a fu ar un adeg yn byw yn yr un ardal ag ef.. Gwnaed trefniadau ar gyfer y gyngerdd ym mis Chwefror a’r cinio blynyddol.