Skip to content

Tachwedd 2011

    Cynhaliwyd trydydd cyfarfod y tymor o Hoelion Wyth cangen Beca yng nghaffi Beca, Efailwen ar nos Fercher, Tachwedd 25ain. Cafwyd gair o groeso gan y cadeirydd Lynn Howells cyn iddo groesawu gwraig wadd y noson sef Iola Wyn o San Cler. Mae Iola yn wyneb a llais cyfarwydd ar S4C ac ar Radio Cymru fel newyddiadurwraig a bu’n son am ei gwaith beunyddiol yn chwilio am storiau newyddion. Bu hefyd yn esbonio sut mae’n cyflawni’r cyfan ar ei phen ei hun drwy reoli a defnyddio’r camera, y sustem sain, yn cyfweld ac yn golygu’r eitem gorffenedig! Cafwyd noson hynod ddiddorol yn ei chwmni a diolchwyd iddi gan Nigel Vaughan. Diolch i Robert am weini cawl blasus i ni yn ol ei arfer – bendigedig!

    mju9th