Skip to content

Tachwedd 2011

    Yng nghyfarfod mis Tachwedd y siaradwr gwâdd oedd Mr. Bill Rees o Dalacharn. Croesawyd ef gan y Cadeirydd, Mr. Eric Hughes. Bu’n sôn am ei yrfa fel prifathro ac am y dylanwad a fu arno gan ei dad. Bu’n dangos slediau ac yn egluro sut yr oedd yn trosglwyddo’r wybodaeth i’r plant wrth eu bod yn gweld yr anifeiliaid ac edrych ar eu hôl, ar y tir o amgylch yr ysgol. Yr oedd yn ofynol i’r plant gofnodi pob digwyddiad ynglyn â’r gwenyn, defaid a’r holl anifeiliaid eraill oedd yn eu meddiant. Diolchodd Mr. Wyn Evans iddo ar ddiwedd y noson gan ddatgelu mor bleserus a diddorol a fu ei araith.