Skip to content

Tachwedd 2009

    Cynhaliwyd trydydd cyfarfod y tymor o Hoelion Wyth cangen Beca yng nghaffi Beca, Efailwen ar nos Fercher, Tachwedd 25ain. Cafwyd gair o groeso gan y cadeirydd Gareth Griffiths cyn iddo groesawu gwr gwadd y noson sef y Parchedig Roger Thomas o Crymych. Mae yntau yn ffeiriad ar eglwysi Clydau, Llanfyrnach, Llanglydwen a Llanwinio ac yn uchel ei barch ymysg eu blwyfolion. Bu Roger yn rhoi hanes ei fywyd i ni ac yn son am y swyddi amrywiol mae yntau wedi eu cyflawni . Cafwyd noson hyfryd yn ei gwmni a diolchwyd iddo am noson ddiddorol gan Eurfyl Lewis. Bu Melisa Morris yn rhoi arddangosfa Virgin Vie i’r aelodau ar y diwedd – a phwy gwell na’i thad Henry i fod yn fodel!!! Edrychwn ymlaen yn eiddgar i weld y lluniau! Diolch i Robert am weini cawl blasus i ni yn ol ei arfer – bendigedig! Cynhelir cinio blynyddol y gangen yn nhafarn yr Oen, Llanboidy ar nos Wener, Ionawr 22ain. Rhowch eich enwau cyn gynted a phosib i Henry Morris os gwelwch yn dda drwy ffonio 01437 563679. Rydym wedi bod yn ffodus i dderbyn grant o £4,950 wrth Arian i Bawb Cymru a bydd Nerys Evans A.C. yn cyflwyno’r siec yn swyddogol i ni yn ystod y ginio. Y siaradwr gwadd fydd yr actor Gwyn Elfyn ( Denzil Pobol y Cwm ).