Skip to content

Tachwedd 2009

    Yng nghyfarfod Mis Tachwedd estynnodd y Cadeirydd Mr Ithel Parri Roberts wahoddiad cynnes i’r g[r gwâdd sef y Parchedig Geraint Morse, Caerfyrddin. Ers deng mlynedd bellach mae yn cadw gwenyn a thrwy gyfrwng sleidiau bu’n egluro yn fanwl gwaith a bywyd y wenynen. Diolchodd Mr Ronnie Howells iddo am noson ddiddorol ac addysgiadol iawn.