Cyfarfu’r Hoelion yn ôl eu harfer yng nghaffi Beca, Efailwen a hynny ar nos Fercher, Hydref 29ain. Cafwyd gair o groeso gan y cadeirydd Robert James cyn iddo groesawu’r gwr gwâdd sef y Parchedig Tom Defis o Gaerfyrddin. Bu Tom yn weinidog yn ardal Llanboidy a Hendy Gwyn am gyfnod ond mae’n gweithio i Gymorth Cristnogol ers blynyddoedd bellach. Bu Tom yn esbonio sut mae Newid Hinsawdd yn effeithio ar bobl a gwledydd tlawd y byd ynghyd â’r pwysigrwydd i ni gyd i geisio prynu nwyddau Masnach Deg. Roedd wedi dod a nifer o engreifftiau o nwyddau masnach deg i ddangos i ni, ac yn wir bu llawer o’r aelodau yn eu prynu. Diolchwyd i Tom am noson ddiddorol iawn gan Ken Thomas a bu pawb yn mwynhau basned o gawl bendigedig Robert cyn troi am adref. Cynhelir y ginio blynyddol yng Nghaffi Beca ar nos Wener, Ionawr 30ain – rhowch eich enw i Henry Morris cyn gynted a phosib os gwelwch yn dda.