Skip to content

Rhaglen Eisteddfod 2020

    EISTEDDFOD YR HOELION 8 2020 – EBRILL 3ydd 2020
    Gwesty’r Talbot,Tregaron

    Rhestr Testunau

    LLWYFAN
    1.Cor GOR ADRODD -Dim llai na 4 ar y llwyfan- Y LLWYNOG (R.Williams Parry)
    Ganllath o gopa’r mynydd pan oedd clych
    Eglwysi’r llethrau’n gwahodd tua’r llan,
    Ac annrheuliedig haul Gorffennaf gwych
    Yn gwahodd tua’r mynydd,-yn y fan,
    Ar ddiarwybod droed a distaw duth,
    Llwybreiddiodd ei ryfeddod prin o’n blaen
    Ninnau heb ysgog ac heb ynom chwyth
    Barlyswyd ennyd,megis trindod faen
    Y safem,pan ar ganol diofal gam
    Syfrdan y safodd yntau,ac uwchlaw
    Ei untroed oediog dwy sefydlog fflam
    Ei lygaid arnom.Yna heb frys na braw
    Llithrodd ei flewyn cringoch dros y grib,
    Digwyddodd,darfu,megis seren wib.

    2.Dweud joc yn ymwneud ag anifail neu anifeiliaid.

    3.Sgets-teitl/thema- Amaethyddiaeth

    4.Eitem Karaoke-y geiriau a’r gerddoriaeth ar y noson

    5.Cor- Rhoddir darn y cor allan ar y noson

    GWAITH CARTREF
    1. BRAWDDEG C.Y.M.Y.D.O.G

    1. LIMERIG ‘Mae’r ‘steddfod yn dod I Dregaron’
    2. BRYSNEGES Llythyren ‘P’ (Dim mwy na 10 gair)
    3. CERDD DDIGRI HOELEN neu HOELION
    4. TELYNEG /SONED/CERDD RYDD CORS.

    Cyfansoddiadau i law’r beirniad erbyn MAWRTH 27ain 2020.Cyhoddir enw’r beirniaid (llwyfan a Gwaith cartref) yn y flwyddyn Newydd ar ol iddynt dderbyn (gobeithio!) y gwahoddiad.