Skip to content

Rhagfyr 2023

    Cynhaliwyd cyfarfod Mis Rhagfyr, fel arfer, yn lolfa Clwb Rygbi Hendygwyn. Estynnwyd croeso i bawb gan y cadeirydd Claude James gyda chroeso arbennig i’n siaradwraig wadd sef Natalie Jones o San Cler lle mae’n byw gada’i gŵr a dau o feibion. Mae’r teulu o Jamica yn wreiddiol a soniadd sut a phryd symudodd ei mamgu a’r teulu i fyw ym Mirmingham. Ganwyd Natalie yno ond ar ôl cyfnod cynnar ei bywyd yno, symudodd y teulu i Bwllheli lle dysgodd siarad Cymraeg. Mae’n athrawes ac ar hyn o bryd mae’n gweithio i S4C fel Swyddog Addysg a mae ei gweld hefyd ar y teledu ar raglenni fel Heno,Pawb a’i Farn ac yn ddiweddar ar y raglen ddogfen ‘Rhwng Dau Fyd’ yn trafod hiliaeth, sydd, yn anffodus, yn bodoli o hyd yn ein cymunedau. Mae hefyd wedi bod yn golofnydd cyson i’r cylchgrawn Golwg.

    Mae’n disgrifio ei hun fel Cymraes ddu a chafwyd yr hanes ganddi pan symudodd y teulu o Jamaica a’r gefnogaeth lwyr gafodd gan ei mamgu a oedd ym ymfalchio yn ei llwyddiant. Gwnaeth brawf DNA a ddangosodd ei bod yn perthyn i naw gwlad a rhai o’r gwledydd hynny ym ymwneud â masnachu caethweision. Cyflwyniad arbennig a diolchwyd iddi ar ran yr aelodau gan John Arfon.