Skip to content

RHAGFYR 2022

    Cynhaliwyd cyfarfod Rhagfyr fel arfer yn lolfa Clwb Rygbi Hendy-gwyn a ceoesawyd pawb gan y cadeirydd Claude James.
    Ein siaradwr gwadd oedd un o’r aelodau sef Cynwil Davies o Pwll Trap. Un o ardal Caio yw Cynwil, cyn symud gyda’i deulu yn y 70au i fferm Llwyndewi, Hendy-gwyn. Gydag amser, oherwydd afiechyd, gorfu iddo roi’r gorau i ffermio ac aeth yn Rheolwr Trafnidiaeth i hufenfa Hendy-gwyn. Wedyn i gwmni Mansel Davies yn Llanfyrnach a’i swydd olaf cyn ymddeol oedd yn Avonmouth, ger Bryste.

    Mae llawer o ddiddordebau gan Cynwil ond ei bwnc ar y noson oedd ei waith yn creu Coeden Deuluol y teulu o ochr ei dad. Roedd yn amlwg fod ymchwil hir a thrylwyr dros ddegawd wedi mynd mewn i olrhain yr hanes a llanw’r holl fylchau teuluol. Yn ogystal â’r cyflwyniad llafar cafwyd hen luniau o’r teulu oedd yn dod a’r hanes yn fyw.

    Penllanw’r gwaith oedd i Cynwil, drwy E L Jones, Aberteifi, gyhoeddi llyfr swmpus, dwyieithog, yn llawn hanes a lluniau fel bod cofnod gan aelodau o’r teulu.
    Cyflwyniad arbennig gyda pawb wedi mwynhau.