Skip to content

Rhagfyr 2021

    Cynhaliwyd cyfarfod mis Rhagfyr ar Nos Iau’r 2il, fel arfer, yn Lolfa Clwb Rygbi Hendy-gwyn. Croesawyd pawb gan y Cadeirydd, Claude James gan egluro, oherwydd salwch, nad oedd y siaradwr gwadd yn medru bod yn bresennol.

    Yn ffodus iawn daeth un o’r aelodau i’r adwy sef Verian Williams, ein hysgrifennydd ac er nad oedd angen ei gyflwyno i’r gynulleidfa, croesawyd ef a diolchwyd iddo am lanw bwlch ar fyr rybudd.

    Brodor o Sir Benfro yw Verian ac o ardal Twfton i fod yn fanwl gywir a chafwyd cyflwyniad ganddo, drwy gymorth lluniau, o dan y teitl ‘Atgofion’. Dechreuodd yn 1909 a symud ymlaen drwy’r blynyddoedd, gan roi hanesion a dywediadau oedd yn berthnasol i’r ardal honno yn bennaf, ond hefyd i Gymru yn gyffredinol.

    Cawsom ganddo hanes ei datcu yn berchen melin wlân ac yn gwerthu crysau gwlanen o Arberth i Abergwaun a hynny yn yr amser pryd oedd bron pob dyn yn gwisgo crysau o’r fath.

    Aeth ymlaen drwy’r 50au a’r 60au gan ddangos, ymysg pethau eraill,  y ceir oedd ar yr heol adeg hynny.

    Cawsom gan Verian gipolwg ar hanes a’r digwyddiadau pwysig dros y degawdau yng Nghymru ac roedd yn amlwg fod pawb wedi mwynhau’r cyflwyniad yn fawr iawn. Diolchwyd iddo ar ran yr aelodau gan Trefor Evans.