Skip to content

Rhagfyr 2019

    Y siaradwr gwadd yng nghyfarfod mis Rhagfyr oedd Lowri Davies o Rydargaeau.  Milfeddyg yw Lowri yn gweithio fel rhan o dîm yng Nghaerdydd ac Abertawe . Mae’n gyfarwyddwr o Glinic SMART, a sefydlwyd yn 2004, ac sy’n canolbwyntio ar leddfu poen, yn enwedig poen cwn.  Mae’n cael ei hystyried yn un o arbenigwyr mwyaf amlwg yn y maes yma yn rhyngwladol.

    Mae’n cynnal cyrsiau ac yn darlithio er mwyn lledu a rhannu eu harbenigedd.  Mae hefyd wedi ysgrifennu llyfr ‘Care of the Canine Athlete’ yn amlinellu gwaith arloesol y mae hi a’r tîm yn gyflawni.

    Mae wedi trin llawer o anifeiliaid egsotic yn ogystal ag anifeiliaid anwes, yn cynnwys eliffantod.  Mae’n ymweld a llawer o wledydd yn rhinwedd ei swydd.

    Mae’n hoff iawn o deithio, yn bennaf i’r mynyddoedd gan fwynhau dringo, sgio a beicio.

    Cafwyd awr hynod o ddiddorol yn ei chwmni gan ddysgu llawer am y lein denau sydd rhwng milfeddygaeth a meddygaeth.   Diolchwyd iddi am ei chyflwyniad, gan Wyn Evans.