Skip to content

Rhagfyr 2019

    Y siaradwr gwadd yng nghyfarfod mis Rhagfyr oedd Lowri Davies o Rydargaeau. Milfeddyg yw Lowri yn gweithio fel rhan o dîm yng Nghaerdydd ac Abertawe . Mae’n gyfarwyddwr o Glinic SMART, a sefydlwyd yn 2004, ac sy’n canolbwyntio ar leddfu poen, yn enwedig poen cŵn. Mae’n cael ei hystyried yn un o arbenigwyr mwyaf amlwg yn y maes yma yn rhyngwladol.
    Mae’n cynnal cyrsiau ac yn darlithio er mwyn lledu a rhannu eu harbenigedd. Mae hefyd wedi ysgrifennu llyfr ‘Care of the Canine Athlete’ yn amlinellu gwaith arloesol y mae hi a’r tîm yn gyflawni.
    Mae wedi trin llawer o anifeiliaid egsotic yn ogystal ag anifeiliaid anwes, yn cynnwys eliffantod. Mae’n ymweld â llawer o wledydd yn rhinwedd ei swydd.

    Mae’n hoff iawn o deithio, yn bennaf i’r mynyddoedd gan fwynhau dringo, sgio a beicio.

    Cafwyd awr hynod o ddiddorol yn ei chwmni gan ddysgu llawer am y lein denau sydd rhwng milfeddygaeth a meddygaeth. Diolchwyd iddi am ei chyflwyniad, gan Wyn Evans.