Skip to content

Rhagfyr 2018

    Y siaradwr gwâdd yng nghyfarfod Rhagfyr oedd Eirwyn Bennet. Nyrs oedd Eirwyn cyn ei ymddeoliad a bu ei yrfa yn gyfangwbl gyda’r Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol (NHS). Treuliodd y rhan fwyaf o’i yrfa fel Nyrs yn Ysbyty Stryd Priory, Caerfyrddin, ac wedi i’r ysbyty honno gau flynyddoedd yn ôl, bu’n gweithio yn ysbyty Glangwili.
    Mae wedi ymddiddori yn hanes Ysbyty Priory Street ers blynyddoedd ac wedi cofnodi llawer o’i hanes, yn cynnwys y ‘Matrons’ a’r Doctoriaid fu’n gwasanaethu yno. Dangosodd luniau, llyfrau a chreiriau yn ymwneud â’r ysbyty o’r blynyddoedd cynnar a chafwyd anerchiad diddorol dros ben.
    Diolchwyd i Eirwyn gan Glyn Evans