Skip to content

Rhagfyr 2017

    Y siaradwr gwadd yng nghyfarfod mis Rhagfyr oedd Dylan Williams o Borthyrhyd; estynnwyd croeso cynnes iddo gan y Cadeirydd, Claude James.Bu’n sôn am ei salwch arweiniodd at iddo gael trawsblaniad arennau a pancreas.  Yn 1966, pan yn 12 oed, dechreuodd golli pwysau a chyda symptomau clasurol eraill, cafodd y  ‘diagnosis’ei fod yn dioddef o glefyd y siwgwr.  Aeth i weld meddyg o’r enw Dr. Bond yn Ysbyty Llwynhelyg ac am y bymtheg mlynedd nesaf roedd bywyd yn hwylus gyda Dylan yn gweithio ar amryw o ffermydd yn Sir Benfro.

    Yn ddiweddarach, bu bron iddo golli ei olwg oherwydd y salwch a gorfu iddo fynd i Ysbyty Llygaid ym Mryste – a byw ar ddeiet heb siwgwr na halen  Cafodd wedyn ei roi ar ‘dialysis’ ac ar restr trawsblaniad.   Bu’n cael dialysis am bum mlynedd pan, wrth fwyta brecwast un bore, cafodd alwad ffôn fod car yn galw amdano mewn deng munud, i fynd i Gaerdydd i gael trawsblaniad.

    Cafodd driniaeth o 12 awr gan fod y llawfeddyg wedi penderfynu fod  angen ‘pancreas’ yn ogystal ag arennau arno. Daeth dros y llawdriniaetyh yn wyrthiol ac eleni mae’n dathlu 20 mlynedd ers iddo gael yr organnau.  Yn ystod y blynyddoedd hyn mae wedi bod yn mynd i ysbytai a chartrefi i siarad am y salwch a’r gwellhad a gafodd.  Am hyn, mae wedi cael gwobr gan Fudiad Aren Cymru. 

    Roedd hwn yn gyflwyniad hynod ddiddorol gan berson oedd yn amlwg wedi gwneud ymchwil manwl i’r broses trawsblannu organau a diolchwyd iddo yn wresog gan Eric Hughes.