Skip to content

Rhagfyr 2015

    Mis Rhagfyr, y siaradwr gwâdd oedd Dafydd Lewis o Hendygwyn.  Mae Dafydd yn berchen siop ffrwythau a llysiau yn y dref ac wedi bod mewn busnes ers blynyddoedd bellach.
    Bu Dafydd yn son am ei brofiad yn cymryd rhan ym Marathon ‘Des Sables’ yn anialwch y Sahara ym Morocco.  Marathon yw hon sy’n 160 milltir dros dirwedd digon gwael, sy’n gofyn llawer o ymdrech i’r rhai sy’n cymryd rhan.
    Dangosodd y dillad a’r cyfarpar anghenrheidiol (15 pwys) ar gyfer y daith, yn cynnwys compass, ‘Vernon pump’ rhag ofn brathiad gan neidr; hefyd deunydd i gynnau tân yn yr awyr agored.  Roedd pawb yn cario digon o fwyd am saith diwrnod, a grwpiau o bobl yn cael defnydd pabell bob nos.
    Ar y daith, cyfarfu â thri person o Ddinbych-y-Pysgod a fu’n gwmni iddo yn ystod y Marathon.
    Ar y diwrnod cyntaf fe deithiwyd 18 o filltiroedd ac yna gweithio i fyny hyd at 60 milltir mewn diwrnod.  Bu llawer o’r cerddwyr yn dioddef yn enbyd o glwyfau ar eu traed a rhai yn gorfod rhoi’r gorau iddi.   Dechreuodd 1,300 – ond 1,100 orffennodd y marathon gyda 15 o Gymru yn eu mysg.  Mae Marathon ‘Des Sables’ yn bodoli ers 30 mlynedd a phob un yn cael medal ar y diwedd.
    Mae llawer o’r ymgeiswyr yn codi arian at rhyw elusen, ac trwy ei ymdrech, cododd Dafydd y swm o £4,500 tuag at Cancr y Prostad.
    Diolchwyd iddo am noson ddiddorol dros ben, gan Claude James.