Skip to content

Rhagfyr 2014

    Cynhaliwyd cyfarfod Mis Rhagfyr fel arfer yn lolfa Clwb Rygbi, Hendygwyn.  Ein siaradwr gwadd oedd Mr Ken Jones o Gastell Newydd Emlyn ac estynnwyd croeso cynnes iddo gan Wyn Evans y Cadeirydd.

    Cynrychioli Grŵp Cefnogi Cancr y Brostad Gorllewin Cymru mae Ken Jones lle mae’n Is-gadeirydd. Mae pob swyddog ac aelod (dros 250 ohonynt) yn dioddef o’r salwch yma ac mae’r grŵp yn cynnig cyngor a chefnogaeth i ddynion sydd yn dioddef o’r cyflwr. Bu’n sôn gyda help slediau ar sgrin am y gwahanol symptomau, triniaethau a’r prawf gwaed sydd ar gael i helpu darganfod y cancr yn gynnar. Cafwyd tystiolaeth gan un o’n haelodau sydd wedi cael triniaeth yn ddiweddar a da yw dweud ei fod yn gwella’n dda.

    Noson addysgiadol bwysig i ddynion a diolchwyd iddo gan John Arfon Jones.