Skip to content

Rhagfyr 2013

    Dechreuwyd ar raglen tymor 2013/14 ym mis Hydref, gydag un o’n haelodau ni ein hunain sef John Watkin yn son am ei brofiadu yn ystod ei yrfa. Ei destun oedd Merched yn fy Mywyd. Bu John yn gweithio i’r BBC am flynyddoedd a byrdwn ei anerchiad oedd taw merched fu’n bennaethiaid arno gan fwyaf. Soniodd am ei gyfnod yn Brunei, Borneo yn sefydlu gwasanaeth darlledu yno. Wrthgwrs wedi dychwelyd i Gymru bu’n gyfrifol am gynhyrchu sawl rhaglen i’r BBC/ S4C. Yn ei plith rhaglen Rasus- sy’n dal i gael ei darlledu ar S4C a hefyd y rhaglen boblogaidd honno Twrio. Ym mis Tachwedd croesawyd Dai Rees Davies Rhydlewis. Cawsom noson ddifyr dros ben yn gwrando ar ei limrigau doniol yn ogystal a cherddi mwy difrifol. ?Ni fyddwn fel arfer yn gwahodd gwestai ym mis Rhagfyr ond byddwn yn cwrdd fel aelodau yng Ngwesty’r Talbot am bryd o fwyd. A dyna a wnaed eleni -tipyn o hwyl wrth gymdeithasu a thynnu coes.Edrychwn ymlaen yn awr i ail ran y tymor. Nos Iau y 23ain o Ionawr disgwyliwn Aneurin Davies i son am ei helyntion wrth ymweld a ffermydd yr ardal fel ‘dyn y tarw potel’