Skip to content

Rhagfyr 2013 / Ionawr 2014

    Yng nghyfarfod mis Rhagfyr, cyflwynodd y Cadeirydd, Mr.Wyn Evans, un o’r aelodau sef Mr. Anthony Thomas i gymeryd y noson. Thema’r noson oedd trafod a thrin nifer o ddiarhebion a dywediadau Cymraeg. Diolchodd Mr. Myrddin Parry iddo ar y diwedd. Yng nghyfarfod dechrau’r flwyddyn, croesawodd y Cadeirydd, Mr. Wyn Evans, y g��r gwâdd sef Mr. Dafydd Evans Trelech. Cafwyd noson ddiddorol ganddo pan fu’n son am ei ymrwymiant a Dawnsio Gwerin, Wedi ymuno â Dawnswyr Talog, roedd ei fywyd wedi ei drawsnewid gyda’r holl deithio a gwneud ffrindiau ymhob cwr o’r wlad – ac yn fwy na dim, cwrdd a’i gymar! Noson ddiddorol dros ben ac fe ddiolchodd Mr. Eric Hughes iddo ar y diwedd.