Skip to content

Rhagfyr 2012

    Yng nghyfarfod mis Rhagfyr Miss Rhian Evans o Gaerfyrddin oedd ein siaradwraig wâdd. Croesawyd Rhian gan y cadeirydd Eric Hughes a chafwyd noson ddifyr yn ei chwmni. Bu’n son am ei bywyd o’i phlentyndod hyd at y presennol. Er iddi raddol golli ei golwg mae wedi cael bywyd llawn, yn byw yn yr un t�� a’i ganed yng Nghaerfyrddin. Bu’n gweithio yn y llyfrgell yng Nghaerfyrddin am flynyddoedd ac yr oedd yn flaenllaw, gyda eraill yn sefydlu a gweinyddu Papur Llafar y Deillion, Papur llafar sydd o hyd yn werhfawr i ddeillion y sir a thu-hwnt.. Cafwyd awr o hanesion yn llawn hiwmor yn ei chwmni a diolchwyd iddi gan Cynwil Davies.